The summer holidays give us valuable time to take stock, assess our equipment and explore new developments and opportunities.
We are using this time to examine the capabilities, advantages and limitations of the different virtual reality headsets and some of the models available. We are also reviewing the remote mobile device management systems (MDMs) offered by VR headsets manufacturers, Meta and PICO, and comparing them with third-party platforms, including our MDM technology partner, ArborXR.

These systems enable us to manage applications and immersive content within a simple, accessible & safeguarded environment. This is especially important when VR experiences are delivered as part of the mobile multimedia exhibitions we provide in various community venues.
Remote headset management also allows Vision Fountain, and our project partners, to manage devices on location. We can update software, install applications and add new content without needing to physically visit each site. This saves time and contributes to a low carbon footprint. As we expand our work across Wales, this will help us operate more efficiently all round.
A huge thank you to the Arts Council of Wales and Rhondda Cynon Taf Heritage Services for their continued support. – ends
Cymryd Stoc dros yr Haf yn Vision Fountain
Mae gwyliau’r haf yn tueddu i fod yn gyfnod tawelach yn Vision Fountain, gan roi amser gwerthfawr inni gymryd stoc, asesu ein cyfarpar ac ymchwilio i ddatblygiadau a chyfleoedd newydd.
Rydym yn defnyddio’r amser hwn i archwilio galluoedd, manteision a chyfyngiadau’r gwahanol glustffonau rhith-realiti, yn ogystal â rhai o’r modelau sydd ar gael. Rydym hefyd yn adolygu’r systemau rheoli dyfeisiau symudol o bell (MDM) a gynigir gan Meta a PICO, ac yn eu cymharu â llwyfannau trydydd parti, gan gynnwys ein partner technoleg dibynadwy, ArborXR.
Mae’r systemau hyn yn ein galluogi i reoli apiau a chynnwys ymdrochol mewn amgylchedd syml, hygyrch, diogel a gwarchodedig. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd profiadau rhith-realiti yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r arddangosfeydd amlgyfrwng symudol rydym yn eu darparu mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol.
Mae rheoli clustffonau o bell hefyd yn galluogi Vision Fountain a’n partneriaid prosiect i reoli dyfeisiau yn y lleoliadau lle maent yn cael eu defnyddio. Gallwn ddiweddaru meddalwedd, gosod apiau ac ychwanegu cynnwys newydd heb fod angen casglu’r dyfeisiau’n gorfforol nac ymweld â phob safle. Mae hyn yn arbed amser ac yn cyfrannu at ôl troed carbon isel. Wrth inni ehangu ein gwaith ledled Cymru, bydd hyn yn ein helpu i weithredu’n fwy effeithlon ym mhob agwedd.
Diolch yn fawr iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaethau Treftadaeth Rhondda Cynon Taf am eu cefnogaeth barhaus. – ends
You must be logged in to post a comment.